Skip to content

Cymuned Ymarfer Ymgysylltu Caerdydd a'r Fro


Ydych chi'n cynnal ymgysylltiad yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg? 

Mae aelodau’r RPB, a gefnogir gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd a ProMo-Cymru, wedi cydweithio i greu adnoddau y gallwch eu defnyddio: 


  • Offer ar gyfer darparu gwaith ymgysylltu: Rhestr Wirio Ymgysylltu a Thempled Cynllun Ymgysylltu a fydd yn eich tywys drwy bob cam sydd ei angen i sicrhau ymgysylltiad effeithiol. 
  • Cronfa Ddata o Waith Ymgysylltu: Yma gallwch weld gwaith ymgysylltu blaenorol sydd wedi digwydd a darganfod beth yw barn dinasyddion ar amrywiaeth o bynciau. 
  • Adnoddau Arfer Da: Yma gallwch gael mynediad at adnoddau arferion da i'ch cefnogi gan ddarparu gwaith ymgysylltu o ansawdd.
  • Cymuned Ymarfer: Rydym yn grŵp o ymarferwyr sy'n cyfarfod yn rheolaidd i rannu arferion da, rhwydweithio a chydweithio ar weithgareddau ymgysylltu. Os hoffech ymuno â’n rhwydwaith, e-bostiwch hsc.integration@wales.nhs.uk gyda'r pwnc 'Cymuned Ymarfer Ymgysylltu'.  


Cliciwch yma i weld yr adnoddau rydyn ni wedi'u creu


Darllenwch yr adroddiad llawn ar ymgysylltu â phobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg


Amdanom ni

Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (RPB) yn cynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, y trydydd sector a’r sector annibynnol a chynrychiolwyr gofalwyr. 

 

Ein nod yw gwella iechyd a lles y boblogaeth a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu trwy wneud yn siŵr bod pobl yn cael y cymorth iawn, ar yr amser iawn, yn y lle iawn.